Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

CLA(4)-21-13

 

Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

CLA288 - Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae'r rheoliadau yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2008, ac yn gweithredu, yng Nghymru a Lloegr yn unig, Gyfarwyddeb 2006/7/EC o Senedd Ewrop ac o'r Cyngor ynghylch rheoli ansawdd dyfroedd ymdrochi a diddymu Cyfarwyddeb 76/160/EEC (“y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi”). Maent hefyd yn gweithredu Penderfyniad Gweithredu'r Comisiwn 2011/321/EU i sefydlu, yn unol â Chyfarwyddeb 2006/7, symbol ar gyfer gwybodaeth i'r cyhoedd ynghylch dosbarthiad dyfroedd ymdrochi ac unrhyw waharddiadau ymdrochi neu gyngor yn erbyn ymdrochi.

 

Materion technegol: craffu

 

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2(ix) mewn perthynas â'r offeryn hwn:

 

Nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

Rhinweddau: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Medi 2013

 

 

Ymateb y Llywodraeth:

 

Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013

 

Diben y Rheoliadau hyn oedd, ymhlith pethau eraill, ymateb i her gan y Comisiwn Ewropeaidd ar drosiad cyffredin Cyfarwyddeb 2006/7/EC yng Nghymru a Lloegr gan y rheoliadau trosi rhagflaenol (cyfansawdd).  Ystyrir ei bod yn briodol parhau â throsiad cyffredin yng Nghymru a Lloegr, er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â phryderon y Comisiwn yn llawn.

 

Mae’r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chan Senedd y Deyrnas Unedig. Yn unol â hynny, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i’r Offeryn hwn gael ei osod ar ffurf ddrafft, na’i wneud, yn ddwyieithog.